Gwybodaeth Archebu – Sut i Archebu

Ar-lein

Mae gennym system archebu ar-lein 24 awr. Mae’n ddiogel ac yn hawdd ei defnyddio. Cliciwch ar ‘Prynu Tocynnau’ ar eich sioe ddewisedig a dilynwch y cyfarwyddiadau. Nodwch, nid yw pob sioe ar gael i’w phrynu ar-lein.

Ffôn

Gellir archebu tocynnau’n uniongyrchol dros y ffôn gan ddefnyddio ein llinellau ffôn – 01745 33 00 00 neu wyneb yn wyneb wrth ddesg ein Swyddfa Docynnau yn ystod oriau agor.

Oriau Agor y Swyddfa Docynnau

Llun – Sadwrn
10:00am tan Agor y Llenni ar ddiwrnodau perfformiadau.
10:00am tan 6:00pm ar ddiwrnodau lle nad oes perfformiadau.

Dydd Sul
4:00pm tan Agor y Llenni ar ddiwrnodau perfformiadau.
Ar gau ar ddiwrnodau lle nad oes perfformiadau.
Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o Gardiau Debyd a Chredyd yn y Swyddfa Docynnau. Os ydych yn archebu yn y Swyddfa Docynnau rydym hefyd yn derbyn sieciau ac arian parod.

Ffioedd Archebu

Mae pob tocyn a werthir yn cynnwys lefi o £2 y tocyn.
Bydd ffi bostio ychwanegol o 80c hefyd.

Tocynnau Teulu

Mae nifer o’n sioeau yn cynnig tocyn teulu. Mae hyn yn caniatáu tocyn i 2 oedolyn a 2 blentyn (3-16 mlwydd oed) neu 1 oedolyn a 3 plentyn (3-16 mlwydd oed). Bydd angen uchafswm o 2 oedolyn ar gyfer gostyngiadau tocyn teulu bob amser.

Archebion Grŵp

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau os ydych chi’n bwriadu gwneud archeb i grŵp o 10+. Fel arfer, mae modd i ni gadw’r tocynnau a chytuno i oedi’r taliad am gyfnod o amser.
Rhai perfformiadau’n unig sy’n gymwys i ostyngiadau ar docynnau grŵp .

Consesiynau

Mae consesiynau ar gael ar rai perfformiadau i’r rheiny dros 60 mlwydd oed, myfyrwyr, unigolion dan 16 mlwydd oed, ffrindiau, ysgolion ac unigolion anabl. Efallai bydd angen dangos tystiolaeth o’ch hawl. Mae modd i blant dan 3 eistedd ar lin oedolion, os oes angen sedd, yna mae’n rhaid ei phrynu.

Rydym yn cynnig tocynnau am ddim i gydymaith/gofalwr cwsmeriaid sy’n methu mynd i’r theatr ar eu pen eu hunain, ffoniwch y Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.

Parcio

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig maes parcio Talu ac Arddangos cyfagos gyda lleoedd parcio’n arbennig i bobl anabl. Mae lleoedd parcio anabl cyfyngedig tu allan i’r theatr hefyd.
Bydd ffioedd parcio’n gymwys rhwng 8am – 5pm. (Ar agored yn ddyddiol rhwng 7am – 12am )
Mae’n rhaid i ddalwyr bathodyn glas dalu, ond byddant yn cael awr o barcio’n ychwanegol at yr amser a argraffwyd ar y tocyn talu ac arddangos.

Mawrth - HydrefTachwedd - Chwefror
1 awr £11 awr 50p
4 awr £3 4 awr £1
Trwy’r dydd £4.50 Trwy’r dydd £2

CYSYLLTWCH Â NI

Theatr y Pafiliwn
Rhodfa’r Dwyrain,
Y Rhyl,
Sir Ddinbych.
LL18 3AQ.
Gweinyddu: 01745 332414

BETH SYDD YMLAEN A THOCYNNAU
SWYDDFA DOCYNNAU

Dydd Llun i ddydd Gwener
9am – 5pm ar ddiwrnodau lle nad oes perfformiadau
9am tan agor y llenni ar ddiwrnodau perfformiadau

Dydd Sadwrn a dydd Sul
4:00pm tan agor y llenni ar ddiwrnodau perfformiadau
Ar gau ar ddiwrnodau lle nad oes perfformiadau

CYSYLLTWCH Â NI

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google